Saving lives, safer roads, cutting crime, protecting the environment

Skip Navigation | Accessibility | Site Map

 

 

2 Gorffennaf 2009 - Cau Gorsaf Profi Cerbydau Llandrindod

Bydd Gorsaf Brofi’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) yn Llandrindod yn cau ar 25 Medi 2009.

Mae cau’r orsaf hon yn rhan o gynllun hirdymor VOSA i wella effeithlonrwydd yn ei rwydwaith gorsafoedd profi. Bydd yn gwneud hyn drwy ddatblygu cyfleusterau awdurdodedig newydd, a fydd dan gontract gan yr Asiantaeth, yn lle’r gorsafoedd profi hŷn y mae nifer ohonynt yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn datblygu traffyrdd yn y Deyrnas Unedig.

Bydd staff gorsaf brofi Llandrindod yn symud i safleoedd cyfagos i gynnal profion a bydd VOSA yn sicrhau bod cwsmeriaid a fydd yn gweld effaith cau'r orsaf yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Bydd hefyd yn cynorthwyo cwsmeriaid i drefnu profion mewn lleoliadau eraill yn y dyfodol. Cynhelir seminar i gwsmeriaid ar 15 Gorffennaf yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod i drafod cau'r orsaf a chynlluniau ar gyfer profi yn yr ardal yn y dyfodol.

Mae VOSA eisoes wedi cyhoeddi y bydd 3 gorsaf brofi a 10 llwybr profi arall yn cau ledled y wlad.

Yn ôl Alex Fiddes, Prif Swyddog Gweithredu VOSA, “Mae cynlluniau VOSA i sicrhau gwasanaeth mwy modern yn cynnwys diweddaru’r rhwydwaith Safleoedd Dynodedig drwy greu Cyfleusterau Profi Awdurdodedig a fydd yn cael eu rhedeg gan gwmnïau preifat megis gweithredwyr a chwmnïau sy’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw. Bydd staff VOSA yn parhau i ddarparu profion annibynnol a rheoledig ar gyfer y Cyfleusterau Profi Awdurdodedig.

“Rydym am ddarparu gwasanaeth mwy modern a mwy effeithlon i’n cwsmeriaid. Mae VOSA wedi bod yn gweithio gyda gweithredwyr a chwmnïau sy’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw ers tro er mwyn gallu mynd ati’n llwyddiannus i gynnig gwasanaeth profi mewn safleoedd dynodedig. Mae mynd â’n gwasanaethau i’r cwsmer yn golygu bod y cerbyd yn segur am gyfnod byrrach ac, o ganlyniad, mae’n fwy economaidd i weithredwyr. Mae cau’r orsaf hon yn rhan o raglen sy’n edrych ar weddnewid trefn brofi VOSA. Bydd VOSA yn parhau i drafod cynigion ar gyfer newid gyda'r diwydiant a chyda'i gwsmeriaid.

Ychwanegodd Alex Fiddes:

“Mae gan VOSA weledigaeth gref o weddnewid y gwasanaeth profi - mae am weld profion yn cael eu cynnal gan staff profiadol yn nes at y safleoedd cynnal a chadw a gweithredu. Mae’n weledigaeth sy’n cefnogi ein nod, sef achub bywydau ar ffyrdd Prydain.”

Diwedd

Photo-caption: Llandrindod Wells test stationAdobe PDF Document

Nodiadau i olygyddion

Ym mis Ebrill 2009, hanerodd VOSA y costau ychwanegol a godir ar hyn o bryd am gynnal profion y tu allan i safleoedd yr Asiantaeth ac mae’n bwriadu dileu’r costau ychwanegol yn llwyr yn 2010, yn amodol ar ymgynghoriad. Bydd hyn yn lleihau’r costau i weithredwyr sydd am ddefnyddio safleoedd a reolir gan drydydd parti, sydd wedi’u lleoli’n fwy hwylus ar gyfer eu gwaith.

Bydd y manteision a geir yn dilyn yr agenda moderneiddio cyffredinol yn cynnwys

gwasanaeth sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain

mwy o ddewis a gwerth i gwsmeriaid

cynnal profion yn nes at y man lle mae gwaith yn cael ei gynnal ar y cerbyd

mwy o hyblygrwydd gyda’r potensial i ymestyn oriau agor, bydd hyn yn arwain at gerbydau’n segur am gyfnod byrrach oherwydd y bydd modd, er enghraifft, cynnal profion yn yr oriau mân er mwyn i’r cerbydau fod yn ôl ar y ffordd y bore hwnnw

cyfleoedd busnes newydd i weithredwyr ac i ddarparwyr gwasanaethau cynnal a chadw cerbydau

Mae’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) yn gyfrifol am y canlynol:

• Prosesu ceisiadau am drwyddedau i redeg gwasanaethau lorïau a bysiau a chofrestru gwasanaethau bws

• Gweithredu a gweinyddu cynlluniau profi i bob cerbyd, gan gynnwys goruchwylio'r cynllun profi MOT

• Gorfodi'r gyfraith ar gerbydau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau a rheoliadau cyfreithiol

• Gorfodi oriau gyrwyr a gofynion trwyddedu

• Cefnogi Comisiynwyr Traffig i'w helpu i wneud penderfyniadau doeth am drwyddedu gweithredwyr, gyrwyr galwedigaethol a gofynion cofrestru bysiau

• Darparu hyfforddiant a chyngor ar gyfer gweithredwyr masnachol

• Ymchwilio damweiniau cerbyd, diffygion a phrosesau galw’n ôl.

Page last updated: 03/07/2009

Email the Author