Saving lives, safer roads, cutting crime, protecting the environment

Skip Navigation | Accessibility | Site Map

 

 

12-01-09 SWYDDFA VOSA YN SYMUD I LEOLIAD DISGLAIR AR oL 40 MLYNEDD

Ar ddiwedd Mis Tachwedd, symudodd 250 o weithwyr o dy Welcombe i adeilad newydd yr Ellipse yn Abertawe.

Ar Ddydd Iau, Ionawr 8 fed, cynhaliwyd y seremoni agoriadol , i groesawu swyddogion i’w swyddfa newydd a rhoi diolch iddynt am eu cydweithrediad a’u bodlonrwydd ar ôl iddynt sicrhau symudiad esmwyth.

Rhoddwyd araith gan Stephen Tetlow, y Prif Weithredwr, torrodd deisen goffaol ac agorodd yr adeilad newydd yn swyddogol.

Yn ystod y seremoni, dywedodd Stephen Tetlow :

“Mae hyn yn gam arwyddocaol ar daith moderneiddio VOSA. Mae’n gosod ein Canolfan Cyswllt Cenedlaethol a gwasanaethau allweddol eraill VOSA mewn amgylchedd mwy proffesiynol, sydd yn well i’n swyddogion ac yn well i’n cwsmeriaid. Hoffwn longyfarch ein swyddogion am eu hymroddiad er mwyn gwireddu hyn. Heb eu hymdrech a’u dioddefgarwch, bydd y newidiad hwn ddim wedi bod mor esmwyth.

Rwy’n falch i groesawu ein holl swyddogion lleol sy’n gweithio yn y cyfleusterau cyfoes yma, gobeithiaf byddant yn mwynhau gweithio yn yr amgylchedd hwn. Mae’r adeilad yn esiampl o fel mae pethau’n newid yn VOSA; mae’n gyfoes ,ag edrychiad allanol ac mae’n brif addurn i’r ddau VOSA ac Abertawe.”

Llenwir 75% o’r adeilad gan weithwyr VOSA, maent yn cael mantais o swyddfeydd heb barwydydd, systemau tymheru a chyfleusterau parcio gwell.

Stephen Tetlow cutting the commemorative cake at the opening ceremony

The Elipse Building

Am ymholiadau'r wasg ynglyn â VOSA ( Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr) cysylltwch â Luke Bigwood ar 0117 954 3208 neu Zita Easton ar 0117 954 2561. Gallwch anfon e-bost hefyd at press@vosa.gov.uk

Page last updated: 14/01/2009


Email the Author