DATGANIAD O YMRWYMIAD YR MCA (English)
O dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi cytundeb sy’n manylu ar sut y byddan nhw’n rhoi ei effaith i’r datganiad o egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA) wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth iddi gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.
Mae’r ymrwymiad hwn yn nodi sut bydd yr MCA yn rhoi’r egwyddor hon ar waith wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae’n mynegi’r hyn sydd ym marn yr Asiantaeth yn briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.
1. CYFLWYNIAD I’R MCA
Mae’r MCA yn darparu gwasanaeth chwilio ac achub ar y môr 24 awr; rydym yn gorfodi safonau ynghylch diogelwch ar longau, atal llygredd, iechyd, diogelwch a lles morwyr a hynny drwy arolygu ac archwilio; rydym yn prosesu’r gwaith i gofrestru ac ardystio llongau a morwyr; ac rydym yn rheoli gwaith i atal llygredd ac i ymateb iddo.
2. CEFNDIR YR MCA
Cafodd Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ei sefydlu ar 1 Ebrill 1998 ac mae’n asiantaeth weithredol i’r Adran Drafnidiaeth (DfT)
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelwch ar y môr drwy weithgareddau atal a gweithgareddau ymateb. Mae’n gwaith ni i gyd yn cyfrannu at ein gweledigaeth o fod y sefydliad diogelwch morol gorau yn y byd, sydd wedi ymroi i fywydau mwy diogel, llongau mwy diogel a moroedd glanach. Mae’r weledigaeth glir hon wedi’i seilio ar ein gwerth cyffredin o ddiogelwch, proffesiynoldeb, ymddiriedaeth a pharch.
3. CYNNWYS Y CYNLLUN HWN
Mae’r MCA wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth iddi gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut bydd yr Asiantaeth yn rhoi’r egwyddor hon ar waith wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.
Bwriad yr ymrwymiad sy’n cael ei amlinellu yn y cynllun hwn yw darparu gwasanaeth yr Asiantaeth mewn modd cadarnhaol ac effeithiol i bobl Cymru;
Mae gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd yng Nghymru eisoes yn cael eu darparu’n helaeth gan yr Asiantaeth:
4. YMDRIN Â’R CYHOEDD CYMRAEG EU HIAITH
Gohebiaeth ysgrifenedig
Mae croeso i gwsmeriaid yng Nghymru ohebu â’r Asiantaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Atebir yr holl ohebiaeth Gymraeg yn Gymraeg.
Bwriad yr Asiantaeth yw y bydd unrhyw gylchlythyr neu lythyr safonol a anfonir at y cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog.
Bwriad yr Asiantaeth yw y bydd gohebiaeth ag aelodau’r cyhoedd yng Nghymru yn cael ei dechrau yn newis iaith yr unigolyn, os yw honno’n hysbys. Fel arall bydd yn Saesneg.
Cyfarfodydd cyhoeddus
Os bydd yr Asiantaeth yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus bydd yr holl ddogfennau angenrheidiol yn cael eu llunio yn ddwyieithog. Bydd cyfle a bydd croeso i aelodau’r cyhoedd gyfrannu yn Gymraeg.
Gwasanaethau ar-lein ac e-bost
Bydd aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno cyfathrebu â’r Asiantaeth drwy’r e-bost yn Gymraeg yn cael ymateb Cymraeg.
Cyhoeddiadau
Gall dogfennau a gyhoeddir gan yr Asiantaeth gael eu darparu yn Gymraeg os gwneir cais amdanyn nhw. Bydd y cyfieithiadau hyn yn ddogfennau testun yn unig gan fod holl gyhoeddiadau’r Asiantaeth yn anelu at gynulleidfa benodol ac nad ydyn nhw’n cael eu cyfieithu i ieithoedd eraill.
Pan fydd unrhyw ddogfen a gyhoeddir gan yr Asiantaeth yn cael ei gwerthu, ni fydd pris dogfen ddwyieithog yn fwy na phris fersiwn uniaith. Bydd pris fersiwn Cymraeg yn unig o ddogfen yr un fath â phris y fersiwn Saesneg.
Recriwtio a staffio
Bydd hysbysebion recriwtio yn adlewyrchu’r ffaith bod croeso i’r rhai sy’n siarad Cymraeg ymuno â’r gweithlu drwy sicrhau bod hysbysebion recriwtio priodol yn ddwyieithog.
Darperir ffurflenni cais Cymraeg os gwneir cais amdanyn nhw yn achos swyddi sy’n cael eu hysbysebu ng Nghymru.