Diweddariad diwethaf: 02/04/2013
Gwybodaeth bwysig ar gyfer holl gwsmeriaid y DVLA
Mae’r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) wedi galw ar ei aelodau i gymryd rhan mewn Gweithred Diwydiannol yn ystod prynhawn dydd Gwener 5 Ebrill 2013.
O ganlyniad, mae’n bosib y bydd DVLA Abertawe (gan gynnwys y Ganolfan Gyswllt) a’r rhwydwaith Swyddfa Leol y DVLA, yn cynnig gwasanaeth llai ac mae’n bosib y byddwch yn aros am fwy o amser os ydych yn ymweld â’r swyddfeydd lleol neu’n ceisio cysylltu â’r DVLA dros y ffôn. Mae’n bosib y bydd y gwasanaethau a ddarperir gan Swyddfeydd Lleol y DVLA yn cael eu heffeithio o 11.30 am ac efallai y bydd rhai Swyddfeydd ar gau o 1 pm.
Mae’r DVLA yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
Gwasanaethau eraill
Efallai yr hoffech ystyried defnyddio gwasanaethau arlein y DVLA neu eich cangen Swyddfa’r Post® agosaf.
Mae gwasanaethau arlein y DVLA ar gael ar:
https://www.gov.uk/browse/driving Dod o hyd i’ch cangen Swyddfa’r Post® agosaf sydd â gwasanaethau moduro