Driver and Vehicle Licensing Agency
Skip Navigation

  • Personalised Registrations
  • Gov.Uk
Diweddariad diwethaf: 25/04/2013

Swyddfa'r wasg


Croeso i dudalen Canolfan Cyfryngau’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.

Gwybodaeth i Olygyddion

Mae DVLA yn cael ei hadnabod yn dda am ddarparu gyrwyr gyda disgiau treth newydd ar gyfer eu cerbydau. Ond rydym yn gwneud llawer mwy na hynny. Yr ydym yn helpu i orfodi’r gyfraith trwy gadw cofrestr gyfoes o yrwyr a cherbydau. Yr ydym hefyd yn helpu i gyflwyno amrywiaeth eang o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd mewn cydweithrediad â’r Adran Drafnidiaeth, yr ydym yn asiantaeth weithredol o’r adran honno. Fel rhan o’r strwythur seneddol, yr ydym yn atebol i’r cyhoedd cyffredinol, felly mae ein holl weithgarwch yn cael eu seilio ar safonau ansawdd uwch. Yr ydym yn chwarae rhan flaenllaw mewn atal troseddu a gostwng troseddu trwy orfodaeth, erlyn a chasglu gwybodaeth. Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys y cyhoedd, gwerthwyr cerbydau, masnachwyr mewn nodau cerbydau personol a mewnforwyr cerbydau, ac mae ein partneriaid a’n rhanddeiliaid yn cynnwys yr heddlu, llysoedd ynadon a sifil, cymdeithasau masnachwyr cerbydau ayb.

Gan weithio o’n pencadlys yn Abertawe a 39 o swyddfeydd rhanbarthol, 12 canolfan orfodi barhaus a chanolfan llinell gymorth ar gyfer cerbydau heb eu trwyddedu ledled Prydain, yr ydym yn cyflogi dros 7,000 o staff.

Mae gan yr Asiantaeth enw da fel sefydliad effeithlon ac uchel ei barch sydd wedi llwyddo i sicrhau’r Nod Siarter am y pedwerydd tro’n olynol. Mae hefyd wedi ei harchredu fel sefydliad Buddsoddwr mewn Pobl.

DVLA Logo

This is the official website of the DVLA - The Driver and Vehicle Licensing Agency is an Executive Agency of the Department for Transport (DfT).

Driver and Vehicle Licensing Agency

Swansea
SA6 7JL
DVLA Twitter DVLA YouTube