Diweddariad diwethaf: 20/10/2010
Swyddfa DVLA Leol Beverley
Crosskill House
Mill Lane
Beverley
HU17 9JB
I wneud ymholiadau ynghylch cerbydau: 0300 790 6802 (defnyddwyr Ffôn testun minicom 01792 766 426).
I wneud ymholiadau ynghylch trwyddedau gyrru: 0300 790 6801 (defnyddwyr Ffôn testun minicom 01792 766 366).
Sylwer, mae pob galwad yn cael ei ateb i ddechrau gan ein canolfan alwadau yn Abertawe.
Ar agor: dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm. Ar yr ail ddydd Mercher ym mhob mis bydd y swyddfa ar agor rhwng 9.30am a 5.00pm.
Cyfleusterau
Os oes gennych anghenion mynediad penodol, defnyddiwch ein gwasanaeth ffonio ymlaen llaw 0300 790 6818
Cyfarwyddiadau
Mewn car
O Gaerefrog (A1035)
- Dilynwch yr A1035 ar draws Beverley Westwood.
- Trowch i’r dde wrth y goleuadau traffig drwy’r porth i North Bar Within
- Trowch i’r chwith am Hengate a symudwch i’r lôn dde
- Wrth y goleuadau traffig, trowch i’r dde am Walkergate
- Dilynwch y ffordd am 200 metr.
- Wrth y goleuadau traffig trowch i’r chwith am Morton Lane
- Dilynwch y ffordd i’r diwedd a throwch i’r chwith am Mill Lane
- Cymerwch y troad cyntaf i’r dde i faes parcio’r swyddfa
O ffordd osgoi Hull (A1079)
- Cymerwch allanfa’r A64 (tua Beverley)
- Trowch i’r chwith ar y gyffordd nesaf (tua Beverley)
- Ar y gylchfan dilynwch y ffordd syth ymlaen
- Ar y gylchfan nesaf dilynwch yr arwyddion i Ganol y Dref
- Ar y ddwy gylchfan fechan – syth ar draws y cyntaf ac i’r chwith ar yr ail tua Lairgate
- Dilynwch y ffordd drwy Lairgate (system unffordd)
- Yn syth ar ôl y goleuadau traffig trowch i’r dde am Hengate
- Dilynwch y ffordd a symud i’r lôn dde
- Trowch i’r dde wrth y goleuadau traffig am Walkergate
- Symudwch i’r lôn chwith a throwch i’r chwith am Morton Lane wrth y goleuadau traffig
- Dilynwch y ffordd i’r diwedd a throwch i’r chwith am Mill Lane
- Cymerwch y troad cyntaf i’r dde am y maes parcio
O Hull (A1174)
- Dilynwch y ffordd drwy Woodmansey
- Dilynwch y ffordd ar hyd y drosffordd ac ar y gylchfan cymerwch y drydedd allanfa (syth ymlaen)
- Ar y gylchfan nesaf trowch i’r chwith am Hull Bridge Road
- Dilynwch y ffordd hon dros y rheilffordd
- Cymerwch y troad cyntaf i’r chwith ar ôl y groesfan cerddwyr am Mill Lane
- Dilynwch y ffordd ac arhoswch i’r dde cyn y groesfan wastad
- Cymerwch y troad nesaf i’r chwith am y maes parcio
O Bridlington (A1035)
- Dilynwch arwyddion i Beverley drwy Tickton
- Ar y gylchfan dilynwch y ffordd syth ymlaen (Hull Bridge Road)
- Dilynwch y ffordd dros y rheilffordd
- Cymerwch y troad cyntaf i’r chwith ar ôl y groesfan cerddwyr am Mill Lane
- Dilynwch y ffordd ac arhoswch i’r dde cyn y groesfan wastad
- Cymerwch y troad nesaf i’r chwith am y maes parcio
O Driffield (A164)
- Dilynwch y ffordd drwy Leconfield
- Ar y gylchfan trowch i’r chwith am ffordd osgoi Grange way
- Dilynwch y ffordd hon nes i chi gyrraedd Cylchfan Swinemoor
- Trowch i’r dde am Hull Bridge Road
- Dilynwch y ffordd dros y rheilffordd
- Cymerwch y troad cyntaf i’r chwith ar ôl y groesfan cerddwyr am Mill Lane
- Dilynwch y ffordd ac arhoswch i’r dde cyn y groesfan wastad
Cymerwch y troad nesaf i’r chwith am y maes parcio
Ar fws
- Safle bws agosaf - Norwood, Beverley (0.25 Milltir) Gwasanaeth Rhif 121 a 122
- Neu - New Walkergate, Beverley (0.25 Milltir) Gwasanaeth Rhif X46
Ar drên
- Gorsaf Drenau Beverley (0.25 Milltir)