Crynodeb Gweithredol

Print Print page   Download PDF PDF image

  1. Mae morgludiant yn gyrru datblygiad byd-eang. Mae ein porthladdoedd yn cynnig mynediad i ni at y rhwydwaith dosbarthu byd-eang. Mae masnach yn cyfrif am bron i 30% o'n CMC. Gyda'i heconomi agored, bydd ffawd economaidd y DU heddiw ac yfory'n dibynnu fwy nag erioed ar ein gallu i fanteisio ar gysylltiadau effeithlon, dibynadwy a chadarn.
  2. Mae'r diddordeb presennol mewn datblygu a phrynu porthladdoedd yn arwydd o hyder yn ein heconomi ac mae hefyd yn arwydd o dwf cyflym mewn masnach fyd-eang. Mae'r farchnad yn dangos y gall ac y bydd yn buddsoddi yn y dyfodol. Ond mae porthladdoedd yn cael effeithiau mwy pellgyrhaeddol ar ein heconomi, ein cymdeithas ac ar ein hamgylchedd ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae'r Llywodraeth o reidrwydd yn gysylltiedig â hyn oll. Mae ein rôl ni ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar 'fethiant y farchnad' - nid yw hwn yn derm sy'n beirniadu'r farchnad mewn unrhyw ffordd, yn hytrach mae'n datgan y ffaith na all marchnadoedd ddatrys ein holl broblemau ar eu pen eu hun. Y cwestiwn sy'n sail i'r adolygiad hwn yw: a ydym ni'n mynd o'i chwmpas yn y ffordd iawn? A ydym wedi llwyddo i ganfod y materion hynny lle mae angen i'r Llywodraeth ymyrryd? A ydym yn ymyrryd pan fod angen gwneud hynny, yn y ffyrdd cywir?
  3. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gwahodd eich sylwadau ar ddyfodol ein porthladdoedd, gan edrych ymlaen cyn belled â 2030. Mae'n canolbwyntio ar berthynas y Llywodraeth gyda'r diwydiant porthladdoedd yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. (Mae polisi porthladdoedd yr Alban yn cael ei ystyried mewn ymgynghoriad ar wahân ar y Strategaethau Trafnidiaeth a Chludo Nwyddau Cenedlaethol sy'n cael eu datblygu gan Weithrediaeth yr Alban.)
  4. Mae'r prif bwyntiau sy'n cael eu hystyried yn y ddogfen hon yn cynnwys:
  • y galw tebygol am gapasiti porthladdoedd yn y dyfodol;
  • sut mae sicrhau bod ymateb y farchnad i'r galw hwnnw'n adlewyrchu amcanion datblygu cynaliadwy;
  • i ba raddau y dylai'r Llywodraeth roi pwyslais ar amcanion datblygu rhanbarthol wrth annog darpariaeth capasiti porthladdoedd yn y dyfodol;
  • sut all y Llywodraeth gynorthwyo porthladdoedd llai, sydd mewn llawer o achosion yn eiddo i ymddiriedolaethau neu awdurdodau lleol, i gyflawni eu potensial fel busnesau ac er budd eu cymunedau ehangach.

Y Fframwaith Polisi Cyffredinol

  1. Mae Penodau 1 a 2 yn rhoi'r materion hyn yng nghyd-destun y polisi a amlinellir yn The Future of Transport 1 . Mewn sector lle mae'n rhaid ymateb i'r farchnad ehangach, lle mae datblygiad yn cael ei yrru gan fuddsoddiad masnachol, ein man cychwyn yw'r egwyddor y dylai'r Llywodraeth ymyrryd i adfer unrhyw fethiannau sy'n digwydd yn y farchnad. Ni ddylid newid y dulliau o ymyrryd a ddefnyddir eisoes, megis y system gynllunio defnydd tir a rheoliadau amgylcheddol, oni bai
  • eu bod yn aflwyddiannus wrth geisio delio'n ddigonol â methiant y farchnad;
  • bod cyfle i symleiddio neu lacio rheolau tra'n cyflawni amcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.

Edrych ar y Twf yn y Galw

  1. Mae Pennod 3 ac Atodiad C yn crynhoi'r rhagamcanion tymor hir yn y galw ym mhob un o brif sectorau'r farchnad cludo nwyddau sydd wedi'u cynhyrchu ar gyfer yr Adran gan MDS Transmodal. Dylai'r rhagamcanion hyn fod yn sail i asesiadau o ofynion capasiti yn y dyfodol, gan gynnwys ffyrdd a rheilffyrdd cysylltiol. Mae'r rhagamcanion yn rhagweld twf cyson ar lefel genedlaethol mewn traffig lwythau a ro-ro, twf sylweddol yn nifer y cerbydau modur a fewnforir, twf uchel yn y traffig mewn rhai nwyddau swmp (yn enwedig nwy naturiol hylifedig neu LNG) a thwf cymedrol ar y cyfan neu ddirywiad mewn sectorau swmp eraill (er y bydd newidiadau'n parhau ym mhatrwm y galw, e.e. am fewnforion glo, trwy borthladdoedd unigol).
  2. Mae'r asesiad hwn yn tueddu i gadarnhau pwysigrwydd economaidd strategol capasiti'r porthladdoedd cludo nwyddau a ro-ro, a'r cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd mewndirol i dderbyn traffig unedig ar ffurf traffig lo-lo a ro-ro.
  3. Oherwydd ei bwys strategol, mae MDS Transmodal wedi cynhyrchu adroddiad mwy arbenigol i ni ar drawslwytho cynwysyddion, sydd hefyd wedi ei gynnwys a'i grynhoi ym Mhennod 3 ac Atodiad C.

Effeithiau Porthladdoedd a Datblygu Porthladdoedd

  1. Mae Penodau 4, 5 a 6 yn ymdrin ag effeithiau ehangach gweithgarwch porthladdoedd ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Ym Mhennod 4 yr ydym yn edrych ar:
  • bwysigrwydd porthladdoedd i fasnach ryngwladol a datblygu economaidd, gan gynnwys buddiannau strategol y Llywodraeth mewn cystadleuaeth a chadernid. Yr ydym o'r farn fod y fframwaith rheoleiddiol presennol yn gwneud digon i ddiogelu cystadleuaeth rhwng porthladdoedd;
  • pwysigrwydd porthladdoedd i ddatblygu rhanbarthol, gan edrych ar drafnidiaeth a dadleuon ehangach y Llywodraeth dros weithredu, gyda chwestiynau ar natur a chwmpas ymyriadau posibl a sut y gellid eu cyfiawnhau;
  • rôl y Llywodraeth o ran porthladdoedd llai, unwaith eto gyda chwestiynau ar y meini prawf a'r ddadl dros ymyriadau posibl.
  1. Mae Pennod 5 yn edrych ar y materion sy'n ymwneud â chysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd a dyfrffyrdd mewndirol â phorthladdoedd, gan gynnwys eu hariannu. Mae'r canlynol ymhlith y cwestiynau a ofynnir:
  • A ddylid gwneud mwy i annog morgludiant byr?
  • A oes ymdriniaeth ddigonol ag effeithiau allanol porthladdoedd mewn rheoliadau, cyllid datblygu a dulliau eraill?
  • I ba raddau all neu a ddylai datblygwyr porthladdoedd ariannu rhwydweithiau trafnidiaeth mewndirol, sydd o reidrwydd yn cynnig mynediad agored i lawer o ddefnyddwyr?
  • A yw materion sy'n gysylltiedig â datblygu porthladdoedd yn derbyn sylw digonol o fewn meini prawf a blaenoriaethau buddsoddi darparwyr rhwydweithiau?
  1. Yr ydym yn edrych ar brofiad diweddar, polisi cyfredol ac ymgynghoriadau paralel ar fater cyfraniadau datblygwyr tuag at rwydweithiau trafnidiaeth mewndirol.
  2. Mae Pennod 6 yn edrych ar effeithiau amgylcheddol gweithgarwch mewn ac yn agos at borthladdoedd. Rhai lleol yn bennaf yw'r rhain wrth eu natur. Mae morgludo rhyngwladol yn achosi effeithiau amgylcheddol byd-eang, ond nid yw'r rhain yn dod o fewn cwmpas yr adolygiad hwn. Yr ydym yn trafod s?n, allyriadau lleol a gwastraff fel effeithiau gweithgarwch porthladdoedd ac yn gofyn a ymdrinnir â'r rhain yn ddigonol o dan y trefniadau presennol. (Mae ystyried cynefinoedd yn aml yn flaenllaw iawn pan geir cynigion i ddatblygu porthladdoedd, ond mae'r cwestiynau amlwg yma'n ymwneud mwy â gweithredu Cyfarwyddeb cynefinoedd yr UE, ac ymdrinnir â'r rhain ym Mhennod 9.)
  3. Mae diogelwch hefyd yn ystyriaeth bwysig, ond nid yw'r adolygiad hwn yn gwahodd sylwadau ar y mater hwn. Yr ydym o'r farn fod y fframwaith polisi presennol yn effeithiol at ei gilydd a chyfyngir y drafodaeth i'r cefndir, fel a amlinellir yn Atodiad B.

Y Fframwaith Polisi a Rheoleiddio

  1. Ar ôl edrych ar feysydd lle gall y farchnad fethu, yr ydym yn gwahodd sylwadau ar effeithiolrwydd prif ymyriadau'r Llywodraeth heddiw.
  • Mae Pennod 7 yn bwrw golwg dros gystadleuaeth yn y sector porthladdoedd a'r modd y mae'n cael ei rheoleiddio. Edrychir hefyd ar effeithiau posibl mesurau polisi cystadleuaeth yr UE.
  • Gan adeiladu ar ganfyddiadau'r Adolygiad o Borthladdoedd Trefol a'n Hadolygiad o Ymddiriedolaethau Porthladdoedd blaenorol, mae Pennod 8 yn edrych ar y pwyntiau sy'n deillio o strwythurau perchnogaeth gwahanol borthladdoedd y DU ac mae'n edrych ar effeithiau hanesyddol deddfwriaeth diogelwch porthladdoedd.
  • Yn olaf, ym Mhennod 9, yr ydym yn gofyn beth yw'r cyfle i wella'r ffordd y mae'r system gynllunio ar gyfer porthladdoedd yn cael ei gweithredu. (Mae y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad hwn i edrych o'r newydd ar y fframwaith cynllunio defnydd tir, a ddiwygiwyd yn ddiweddar.)
  1. Mae'r ddadl ar y materion hyn yn agored i bawb. Yr ydym yn awyddus i glywed eich sylwadau, boed gennych chi wybodaeth arbenigol am y diwydiant porthladdoedd neu beidio. Dangosir y cwestiynau cyffredinol, strategol mewn print trwm. Efallai y bydd y cwestiynau mwy manwl o ddiddordeb i chi os oes gennych wybodaeth eisoes am y diwydiant porthladdoedd, er nad yw ein hymgynghoriad wedi ei gyfyngu i'r sawl sy'n meddu ar wybodaeth o'r fath. Mae crynodeb o'r cwestiynau i'w weld ym Mhennod 10. Gallwch ymateb trwy e-bost neu trwy bostio'ch ymateb atom (gweler paragraff 10.3 am ragor o fanylion).
  2. Efallai yr hoffech hefyd ystyried ac ymateb i'r ddogfen ymgynghori ar wahân ar Fesur Morol y Llywodraeth, a gyhoeddwyd ar 29 Mawrth.

1 The Future of Transport — White Paper Cm 6234, DfT, Gorffennaf 2004.