Skip navigation.
The climate change story. Show you care, sign up here
Search
Help tackle climate change when you buy a car and when you drive

GYDA’CH HELP CHI GALLWN LEIHAU CO2

Lleihau’ch CO2. Gallwch chi helpu

Mae’r holl geir sydd ar ein ffyrdd heddiw yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd oherwydd eu bod yn creu carbon deuocsid (CO2) wrth losgi tanwydd yn yr injan bob tro y byddwn yn eu gyrru. Mae’n broses hawdd iawn i leihau’r allyriadau hyn ynghyd ag arbed arian hefyd. Wrth ddilyn ychydig o ganllawiau ac awgrymiadau syml fe allwch leihau llwyth gwaith eich injan, a bydd hynny’n golygu y bydd yr injan yn llosgi llai o danwydd ac o ganlyniad yn creu llai o CO2.

Gallwch ddewis car newydd sydd ag injan sy’n defnyddio tanwydd mwy effeithiol. Gallwch hefyd sicrhau bod eich teiars ar y pwysedd cywir er mwyn atal gwrthiant. Gall hyd yn oed cario llai o bwysau wrth deithio yn y car fod o gymorth.

Mewn gwirionedd wrth ddilyn ein Hawgrymiadau ar gyfer Gyrru’n Gallach fe allwch leihau allyriadau CO2 o ryw 8%, a phe bai pawb sy’n prynu car newydd sbon eleni yn penderfynu prynu’r model mwy effeithiol yn y dosbarth o ran llosgi tanwydd, byddai lefelau allyriadau CO2 ar gyfer ceir newydd yn lleihau’n sylweddol.

Cofiwch, fe allwch chi helpu. Ymunwch â’r ymgyrch i leihau CO2.

 

Home Page Column 2

Smarter driving - we can all do our bit to reduce CO2 emissions simply by applying a few easy tips when we drive. Low CO2 Top Ten Emission Mission - Play our game to test your Smarter Driving skills